Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 4
Tachwedd 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd
wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog
34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau
electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog
34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y
Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y
cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd
cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd
arferol
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
(45 munud)
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
I ofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Helen Mary Jones (Canolbarth and Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i gau'r gronfa cadernid economaidd yn gynnar i geisiadau sy'n ymwneud â'r cyfnod atal byr?
4 Datganiadau 90 eiliad
(5 munud)
5 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Atal trafodion cyn pleidleisiau electronig o bell
(5 munud)
NDM7448 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Atal trafodion cyn pleidleisiau electronig o bell’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Hydref 2020.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 34.14D, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
6 Cynnig i ethol Aelod i Bwyllgor
(5 munud)
NDM7453 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes.
7 Cynnig i ethol Aelod i Bwyllgor
(5 mun)
NDM7454 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mark Reckless (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid.
8 Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2019-20
(30 munud)
NDM7447 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Mehefin 2020.
9 Dadl ar ddeisebau: Addysgu hanes mewn ysgolion
(60 munud)
NDM7450 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â dysgu hanes mewn ysgolion:
a) Deiseb ‘P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu’ a gasglodd 7,927 o lofnodion; a
b).Deiseb ‘P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru’ a gasglodd 34,736 o lofnodion.
10 Cyfnod pleidleisio
11 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7449 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cymesuredd cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2020